Triniaethau Deintyddol Cyffredinol
Hafan > Triniaethau > Triniaethau Deintyddol Cyffredinol
Mae Gofal Deintyddol Tara Martin yn cynnig ystod gynhwysfawr o driniaethau deintyddol cyffredinol i ddiwallu eich holl anghenion iechyd y geg, gyda gofal personol i bob claf. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
Ymgynghoriad Cleifion Newydd
Rydym yn dechrau gydag ymgynghoriad trylwyr i ddeall eich hanes deintyddol a darparu cynllun triniaeth manwl wedi'i deilwra i'ch anghenion. Mae ymgynghoriad claf newydd yn costio £80 ac yn yr apwyntiad hwn bydd Tara yn archwilio eich ceg yn drylwyr gan gymryd pelydrau-x. Os bydd angen unrhyw driniaeth arnoch, byddwn yn paratoi cynllun triniaeth manwl i chi yn esbonio holl gamau a chostau'r driniaeth sydd ei hangen.
Archwiliad Plentyn
Archwiliadau gofalus ac addas i blant sydd wedi’u dylunio i fonitro datblygiad deintyddol eich plentyn a sefydlu arferion iach o oedran ifanc.
Llenwadau (fillings)
Rydym yn cynnig llenwadau traddodiadol a rhai lliw dannedd i adfer eich dannedd gyda golwg naturiol a chanlyniadau fydd yn para. Mae costau ein llenwadau yn amrywio ar faint y llenwad gan ddechrau o £175 i £225. Rydym yn cynnig gwasanaeth gofalus a di-boen i sicrhau bod ein cleifion yn teimlo'n gyfforddus yn ystod eu triniaeth.
Coronau a Phontydd
Coronau a phontydd wedi'u gwneud yn arbennig sy'n adfer siâp, maint a swyddogaeth eich dannedd, gan wella ymddangosiad a chysur.
Dannedd gosod
Dannedd gosod llawn a rhannol wedi'u dylunio i ffitio yn gyfforddus, gan wella'ch gwên a'ch gallu i gnoi.
Triniaethau Sianel y Gwreiddyn (Root Canal)
Triniaethau effeithiol i arbed dant sydd wedi'i ddifrodi neu wedi'i heintio, gan atal yr angen i’w dynnu.
Tynnu Dannedd a Llawdriniaeth i Dynnu Dannedd
Tynnu dannedd yn ddiogel ac yn ofalus pan fo angen, gan gynnwys tynnu dannedd mwy cymhleth pan fo angen.
Bondio Cyfansawdd Cosmetig
Yr ateb lleiaf ymyrrol (invasive) i atgyweirio dannedd sydd wedi torri, cracio neu golli eu lliw, gan gyd-fynd yn berffaith â'ch gwên naturiol.
Argaenau (veneers)
Coronau porslen tenau sy'n gorchuddio blaen eich dannedd i wella golwg eich gwên trwy guddio olion o amherffeithrwydd.
Gwasanaethau Hylenydd
Glanhau proffesiynol i gynnal iechyd y geg gorau posibl, cael gwared ar blac, ac atal clefyd y deintgig.
Tawelydd
Rydym yn cynnig opsiynau tawelydd er mwyn tawelu ofnau cleifion a’u helpu i fod yn gyfforddus yn ystod eu triniaethau.
Orthodonteg ac Alinyddion
Amrywiaeth o opsiynau sythu dannedd, gan gynnwys bresys traddodiadol ac alinwyr clir sy’n cynnig triniaeth fwy cynnil.
Apwyntiadau Brys
Rydym ni yma i chi pan fyddwch ein hangen ni, yn cynnig gofal prydlon ar gyfer argyfyngau deintyddol i leddfu poen a mynd i'r afael â materion brys.
Mae Gofal Deintyddol Tara Martin yn ymroi i ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar, gan sicrhau bod eich iechyd deintyddol mewn dwylo da. Boed yn ofal arferol neu’n driniaethau mwy cymhleth, rydym ni yma i’ch helpu i gyflawni a chynnal gwên iach, hardd.